Ymateb Chwaraeon Cymru i Ymgynghoriad Costau Byw y Pwyllgor CCWLSIR.
Mae Chwaraeon Cymru yn croesawu’r cyfle i ymateb i’r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol ynghylch effaith pwysau costau byw. Mae ein data’n dangos bod y pwysau hyn yn debygol o gael, ac yn wir eisoes yn cael, effaith ar (i) y sector chwaraeon yng Nghymru, a (ii) y rhai sy’n dibynnu ar eu sefydliadau, clybiau a chyfleusterau chwaraeon lleol, i ofalu am eu hiechyd a’u lles corfforol a meddyliol.
· Pa effeithiau mae cynyddu costau byw wedi eu cael ar eich sefydliad a’ch sector hyd yma?
Y Sefydliad:
Ar hyn o bryd mae gan Chwaraeon Cymru gontract cyfradd sefydlog ar gyfer ei filiau cyfleustodau yn y Ganolfan Genedlaethol yng Nghaerdydd ac mae hanner ffordd drwy’r contract presennol. O ganlyniad, mae lefel gyfyngedig o warchodaeth hyd at 2023/24 gyda chynnydd wedi'i reoli. Yn naturiol, mae costau cynyddol ar draws nifer o wasanaethau eraill, ac fel darparwyr chwaraeon eraill, gallai ein Canolfannau Cenedlaethol gael eu heffeithio gan lai o wariant ac ymgysylltu gan ddefnyddwyr o ganlyniad i unigolion yn dioddef pwysau ariannol cynyddol.
Ym Mhlas Menai, bydd Chwaraeon Cymru yn gweld budd ein buddsoddiad parhaus yn y cyfleuster, fel y paneli solar a’r pwmp gwres ffynhonnell daear newydd a ddylai fod yn weithredol dros fisoedd y gaeaf.
Yn ogystal â monitro effaith ariannol y cynnydd mewn costau byw ar elfen fusnes Chwaraeon Cymru, gan gynnwys nad yw ein codiad cyllid eleni wedi cadw i fyny â chwyddiant ar 1.5% yn unig, rydym wrth gwrs yn pryderu am yr effaith y mae ein staff yn ei hwynebu. Mae hyn o ran y pwysau ariannol y maent hwy, fel y boblogaeth yn gyffredinol, yn eu hwynebu, yn ogystal â'r pryderon iechyd meddwl cysylltiedig a allai godi o hyn.
Rydym wedi gweld cynnydd bach yng nghyfradd trosiant y staff yn ystod y misoedd diwethaf. Gallai hyn fod yn gysylltiedig â’r argyfwng costau byw gan fod gofyn i unigolion flaenoriaethu codiadau cyflog uwchlaw buddion anariannol.
Y Sector:
Fel rhan o ddull parhaus y sefydliad o gasglu tystiolaeth, mae Chwaraeon Cymru yn cynnal arolygon cyfnodol o 1,000+ o oedolion yng Nghymru, gyda Savanta ComRes. Mae ‘Traciwr Gweithgarwch Cymru’ yn monitro tueddiadau o ran cyfranogiad a galw yn ogystal â phrofi barn ar faterion cyfoes. Roedd yr arolwg diweddaraf, a gynhaliwyd ar 22ain Awst, yn rhoi gwybodaeth am sut roedd yr argyfwng costau byw yn effeithio ar gyfranogiad y cyhoedd mewn chwaraeon.
Dywed dau o bob pump o’r ymatebwyr (41%) bod yr argyfwng costau byw wedi cael effaith negyddol ar eu gallu i fod yn actif, tra bo tri o bob deg (29%) yn dweud eu bod wedi bod yn gwneud llai o chwaraeon a gweithgarwch corfforol oherwydd newidiadau mewn costau byw. Yn frawychus, casglwyd y ffigurau hyn cyn y cynnydd diweddar mewn prisiau ynni, sy’n awgrymu mai dim ond yn y dyfodol y daw’r gostyngiad a’r pryder hwn yn fwy sefydlog.
Rydym yn gwybod hefyd o Draciwr Gweithgarwch Cymru bod yr effaith hon yn cael ei theimlo fwyaf o fewn unedau teuluol. Mae ymatebwyr sydd â phlant 15 oed neu iau yn fwy tebygol na'r rhai heb blant o’r oedran hwn o ddweud bod yr argyfwng costau byw wedi cael effaith negyddol ar eu gallu i fod yn actif (51% o gymharu â 35%).
Rydym eisoes yn gweld effaith yr argyfwng costau byw ar rai o’r partneriaid allweddol rydym yn gweithio â hwy. Mae perchnogion cyfleusterau yn cael eu gorfodi i gynyddu eu taliadau llogi i glybiau chwaraeon lleol a grwpiau cymunedol, sydd naill ai’n gwneud y gweithgaredd yn anymarferol neu’n gwthio’r pris ar gyfer cyfranogiad yn uwch, gan gynyddu’r bwlch cyfranogiad.
· Pa effeithiau ydych chi'n rhagweld y bydd costau cynyddol yn eu cael ar eich sefydliad a'ch sector? I ba raddau fydd yr effeithiau hyn yn amhosibl eu gwyrdroi (e.e. lleoliadau’n cau, yn hytrach na chyfyngu dros dro ar weithgareddau)?
Y Sefydliad:
Er i ni nodi yn ein hateb uchod lefel y gwytnwch y mae Chwaraeon Cymru wedi’i feithrin drwy fuddsoddi mewn dulliau gwresogi ynni effeithlon, yn ogystal â thaliadau strwythuredig, yn y pen draw, fel pob sefydliad, bydd y costau cynyddol yn effeithio ar y sefydliad.
Hefyd fel y nodir uchod bydd hyn yn effeithio ar ein galluoedd gweithredol a galluoedd ein staff ar lefel unigol. Mae’n bosibl y bydd y sefydliad yn wynebu lefelau uwch o absenoldeb oherwydd salwch wrth i unigolion ymdrechu i ddelio â’r argyfwng, yn feddyliol ac yn gorfforol.
Yn ystod misoedd y gaeaf efallai y byddwn yn gweld galw uwch am ofod desg yn ein swyddfeydd gyda staff yn wynebu baich ariannol i gynhesu eu cartrefi yn ystod y dydd. Bydd hyn yn effeithio ar y gweithrediadau wrth i ofod gael ei aildrefnu er mwyn cefnogi amgylchedd gwaith hybrid a chyflawni yn erbyn yr amcan yn ein llythyr cylch gwaith o 30% o staff yn gweithio o gartref.
Y Sector:
Mae fforddiadwyedd chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn rhwystr a all atal unigolion a theuluoedd rhag cymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Mae ein data’n dangos nad yw 59% o oedolion yn teimlo bod cyfleusterau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn eu hardal yn fforddiadwy, gyda’r oedolion hynny’n llai tebygol o fod yn actif (ComRess, Chwefror 2022).
Fel y nodwyd uchod, mae’r dirywiad presennol mewn gweithgarwch a phryder am effaith costau byw ar y gallu i fod yn actif wedi’i nodi cyn y cynnydd mewn prisiau ynni. Gyda’r cynnydd hwn yn debygol o leihau incwm gwario aelwydydd yn sylweddol, a chynnydd pellach mewn prisiau i daro yn y dyfodol, mae pryder y bydd y 29% sy’n dweud eu bod wedi bod yn gwneud llai o chwaraeon a gweithgarwch corfforol oherwydd newidiadau mewn costau byw yn codi. Fel rhagfynegiad, erbyn mis Ionawr y flwyddyn nesaf gallai hyn arwain at ostyngiad o fwy na 50% mewn cyfraddau gweithgarwch.
Mae pryder economaidd ehangach hefyd o ran yr effaith costau byw ar chwaraeon gan fod chwaraeon yn hollbwysig i economi Cymru. Fel rhan o adroddiad gwerthusiad economaidd a gomisiynwyd gan Chwaraeon Cymru, amcangyfrifodd Canolfan Ymchwil Diwydiant Chwaraeon (SIRC) Prifysgolion Sheffield Hallam bod y diwydiant chwaraeon yng Nghymru yn werth £1,260m yn 2019, a bod yr economi chwaraeon wedi cyfrannu £1,195m mewn gwariant defnyddwyr ar chwaraeon, a chynhyrchodd 31,100 o swyddi cysylltiedig â chwaraeon yn yr un flwyddyn. Canfuwyd bod y sector chwaraeon yn perfformio’n well na’r diwydiannau fferyllol, teithio, llety a thecstilau yng Nghymru.
Mae'r sector yn hybu'r economi yn uniongyrchol drwy gynnal miloedd o swyddi ac, yn anuniongyrchol, drwy leihau costau gofal iechyd drwy hwyluso poblogaeth iachach a lleihau troseddu. Ymhellach, mae'n sbarduno diwydiannau cysylltiedig fel manwerthu, twristiaeth a lletygarwch ymhlith eraill.
Mae’r llif incwm a gwariant cysylltiedig â chwaraeon yn deillio o’r canlynol:
· Defnyddwyr, e.e., gwariant sy’n ymwneud â chwaraeon.
· Chwaraeon masnachol, e.e., clybiau chwaraeon gwylwyr, cyfleusterau hamdden / campfeydd preifat, gweithgynhyrchwyr a manwerthwyr nwyddau chwaraeon, cyfryngau sy'n gysylltiedig â chwaraeon a chyhoeddiadau chwaraeon.
· Masnachol nad yw'n ymwneud â chwaraeon, e.e., gwestai, nawdd, gofynion cyfleustodau.
· Gwirfoddol, e.e., sefydliadau chwaraeon nid er elw fel clybiau chwaraeon amatur.
· Llywodraeth leol, e.e., incwm o gyfleusterau chwaraeon, trethi o’r sector masnachol a gwirfoddol.
· Llywodraeth ganolog, e.e., trethi, grantiau, a chyflogau ar weithgareddau sy’n ymwneud â chwaraeon.
Bydd prisiau ynni yn codi, cynnydd mewn treth, a chyflogau real yn gostwng yn arwain at dynnu allan o'r llif incwm a gwariant uchod sy'n gysylltiedig â chwaraeon, ac felly'n cael effaith negyddol ar wariant defnyddwyr sy'n gysylltiedig â chwaraeon, gwerth ychwanegol crynswth, a chyflogaeth.
Ochr yn ochr â gwerth economaidd chwaraeon, mae pŵer chwaraeon fel sbardun ar gyfer cydlyniant cymunedol, iechyd ataliol, addysg a lles yn ddiymwad. Yn ôl SRIC, yn 2018 mae’r elw cymdeithasol o fuddsoddi mewn chwaraeon yn dangos, am bob £1 a fuddsoddir mewn chwaraeon yng Nghymru, bod elw o £2.88. Amcangyfrifir bod y gwerth yn creu elw ym meysydd iechyd, lles, addysg a throseddu. Yn 2016/17, canfuwyd bod cymryd rhan a gwirfoddoli mewn chwaraeon wedi cyfrannu gwerth £3,428m o fuddion at gymunedau Cymru. Felly bydd gostyngiad mewn cyfranogiad mewn chwaraeon, a chynhyrchu economaidd drwy chwaraeon, yn cael effaith amlwg y tu hwnt i'r sector chwaraeon.
Yn gysylltiedig â hyn, mae Chwaraeon Cymru yn pryderu y gallai pwysau costau byw effeithio’n negyddol ar y gweithlu chwaraeon, sydd ond wedi adfer yn ddiweddar o effaith pandemig Covid-19.
Tynnir sylw at y pryderon hyn ymhellach gan ddata o Arolwg Cenedlaethol Cymru, sy’n dangos mai dim ond 5% o oedolion ‘mewn amddifadedd materol’ a wirfoddolodd mewn chwaraeon yn ystod y 12 mis diwethaf, o gymharu â 10% o oedolion nad oeddent yn byw mewn ‘amddifadedd materol’. Os caiff cymunedau, aelwydydd ac unigolion eu gwthio i ‘amddifadedd materol’ o ganlyniad i bwysau costau byw, efallai y bydd nifer yr unigolion sy’n gwirfoddoli neu sydd â diddordeb mewn gwirfoddoli yn y sector chwaraeon yn lleihau, gan effeithio ar y ddarpariaeth chwaraeon ledled Cymru. Dangosodd yr Astudiaeth Elw Cymdeithasol ar Fuddsoddiad (2018) bod gwirfoddolwyr mewn chwaraeon wedi darparu tua £311m o fuddion i economi Cymru. Unwaith eto, gallai effaith negyddol ar unigolion oherwydd yr argyfwng costau byw leihau nifer y gwirfoddolwyr chwaraeon a thrwy hynny effeithio ar y cyfraniad economaidd hwnnw, yn ogystal â’r cyfleoedd eang i’r cyhoedd fod yn actif drwy chwaraeon.
Rydym yn credu bod chwaraeon yn chwarae rhan sylfaenol wrth gefnogi iechyd a lles Cymru a thrwy hynny gefnogi'r economi yn anuniongyrchol drwy leihau costau gofal iechyd oherwydd poblogaeth iachach a lleihau troseddu. Gallai gostyngiad sylweddol yn incwm gwario cartrefi gael effaith negyddol ar nifer y bobl sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon, gan ei fod yn cael ei weld yn anfforddiadwy. Mae perygl i hyn waethygu anghydraddoldebau iechyd, gan effeithio’n negyddol ar economi Cymru.
Yn benodol ar fater hyfywedd economaidd chwaraeon, gall yr heriau canlynol i fusnesau, sefydliadau a’r sector godi oherwydd y pwysau costau byw:
· Newidiadau i ymddygiad defnyddwyr
o Rydym yn pryderu, wrth i incwm gwario aelwydydd ostwng, y bydd chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn cael eu trin fel nwydd ‘nad yw’n hanfodol’, gan leihau’r defnydd o chwaraeon. Mae'n wir bod darparwyr yn dweud eu bod wedi gweld gostyngiad yng ngrym gwario pobl a'u bod eisoes yn dewis nad yw chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn hanfodol.
o Efallai y bydd pobl yn dewis newid o ddulliau ymarfer y mae’n rhaid talu amdanynt, fel campfeydd a phyllau nofio, i ddewisiadau eraill am ddim fel rhedeg a cherdded.
o Gallai cymryd rhan mewn digwyddiadau masnachol neu alw am docynnau gwylwyr weld gostyngiad yn y galw hefyd.
· Heriau ariannu / buddsoddi i glybiau a sefydliadau sy’n darparu cyfleoedd lleol i bobl Cymru fod yn actif
o Mae ein buddsoddiad mewn chwaraeon yng Nghymru yn dangos ers y pandemig bod clybiau’n dod yn fwy ymwybodol o sicrhau effeithlonrwydd ynni a chynaliadwyedd. Gall hyn fod oherwydd yr arbedion economaidd a ddaw yn sgil cymryd y camau hyn.
o Rydym yn gwybod hefyd, o ganlyniad i’r pandemig, bod gan glybiau a sefydliadau yn aml nifer o gostau cyffredinol nad ydynt yn agored i’w trafod, fel costau rhent ac ynni, y mae’n rhaid eu talu i gynnal mynediad ac ansawdd cyfleusterau.
o Pe bai gweithgarwch corfforol yn cael ei weld fel rhywbeth ‘nad yw’n hanfodol’, gallai hyn leihau’r niferoedd sy’n cynnal aelodaeth o glybiau chwaraeon, gan leihau ffrydiau incwm y sefydliadau hynny.
· Heriau ariannol i gynnal a chadw a datblygu cyfleusterau chwaraeon, yn benodol Ymddiriedolaethau Hamdden.
o Gan fod y gefnogaeth ariannol i Covid yn gyfyngedig, mae adferiad yr ymddiriedolaethau hamdden wedi aros yn ei unfan, gyda llai o gwsmeriaid yn ymweld â chanolfannau hamdden bellach (tua 70 i 80% o gymharu â lefelau cyn Covid ers mis Hydref 2021). Mae’r argyfwng costau byw yn debygol o barhau i effeithio ar ddewisiadau pobl i ddychwelyd i gyfleusterau hamdden.
o Mae cyfleusterau hamdden yn profi pwysau anghynaliadwy ar eu gweithrediadau. Bydd hyn yn her sylweddol i'r sector; yn enwedig ar gyfer gweithredwyr cyfleusterau mawr, gan gynnwys pyllau nofio a rinciau iâ. Mae’r cynnydd i’r Cyflog Byw Cenedlaethol yn rhoi pwysau ar wariant ymddiriedolaethau hamdden ar gyflogres. Oherwydd y problemau byd-eang gyda chadwyni cyflenwi, mae gallu ymddiriedolaethau hamdden i weithredu a buddsoddi yn eu cyfleusterau a’u lleoliadau yn cael ei lesteirio.
o Mae gweithredwyr hamdden eisoes wedi buddsoddi mewn systemau ynni effeithlon lle gallant. Fodd bynnag, mae bron i ddwy ran o dair o’r stad hamdden yn heneiddio ac wedi dyddio gormod i gael ei hadnewyddu a gyda’r pwysau ariannol presennol, ni all ymddiriedolaethau hamdden fuddsoddi ymhellach mewn datgarboneiddio ac adnewyddu cyfleusterau (Hamdden Cymunedol Cymru, 2022).
o Gall yr effaith ar weithredwyr arwain at gau cyfleusterau o bosibl, lleihau cyflogeion, cynyddu prisiau i gwsmeriaid, a llai o oriau gweithredu. Ymhellach, mae risg y bydd llai o gapasiti ar gyfer gweithgareddau eraill sy'n cael cymhorthdal ar hyn o bryd, gan gynnwys rhaglenni iechyd a lles, rhaglenni allgymorth a chymdogaeth, cymorth i deuluoedd, ac ati. Mae hyn yn codi pryderon ynghylch buddsoddi mewn gofal iechyd, lleihau anghydraddoldebau, a rhaglenni datgarboneiddio.
· Pa ymyriadau hoffech chi eu gweld gan Lywodraethau Cymru a’r DU?
Mae’n bosibl y bydd angen cymorth ariannol ychwanegol i unigolion a Chyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru i ddelio â’r argyfwng ynni, a chyllid ar gyfer dyfarniadau cyflog na ellid bod wedi eu rhagweld wrth osod y gyllideb. Byddai hyn hefyd o bosibl yn ymestyn i gymorth ariannol ychwanegol i Gyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru i hwyluso dyfarniad tâl costau byw sy’n adlewyrchu’r amgylchiadau presennol ar gyfer staff ledled Cymru.
Bydd angen ystyried unrhyw hyblygrwydd i gefnogi cronfeydd cyllid brys, gan adlewyrchu’r hyn a wnaed mewn ymateb i Covid-19, fel rhan o elfen cymorth tymor byr i gydnabod y gostyngiad yn yr ymwneud â chwaraeon oherwydd pryderon am gostau byw uwch.
Byddai’n ddoeth hefyd ailedrych ar argymhellion y pwyllgor o’i ymchwiliad i effaith tlodi ar gyfleoedd chwaraeon i adolygu’r hyn y gellir ei gyflymu yng ngoleuni’r hinsawdd bresennol.
· I ba raddau y mae’r effeithiau rydych yn eu disgrifio yn effeithio'n wahanol ar bobl â nodweddion gwarchodedig a phobl o statws economaidd-gymdeithasol is?
Rydym yn gwybod eisoes bod pobl â nodweddion gwarchodedig a phobl o statws economaidd-gymdeithasol is yn llai tebygol o fod yn actif drwy chwaraeon. Yn yr un modd, rydym yn gwybod eisoes hefyd bod y rhai â nodweddion gwarchodedig yn fwy tebygol o ddod o gefndiroedd difreintiedig. Felly, mae’r mater hwn yn cael ei waethygu pan fydd costau byw yn sbarduno gallu, neu ddiffyg gallu, i gymryd rhan mewn chwaraeon.
Mae gwahaniaethau o ran mynediad at chwaraeon a gweithgarwch corfforol yng Nghymru, sy’n cael eu heffeithio’n bennaf gan dlodi ac amddifadedd. Cyn yr argyfwng costau byw presennol hyd yn oed, roedd 1 o bob 4 o bobl yng Nghymru yn byw mewn tlodi ac mae 1 o bob 3 o bobl ifanc yng Nghymru yn tyfu i fyny mewn tlodi (Oxfam, 2022; Street Games, 2022). Mae gan deuluoedd sy’n byw mewn tlodi gyn lleied â £3.21 i’w wario ar chwaraeon a hamdden bob wythnos (ibid).
Nododd Arolwg Cenedlaethol Cymru hefyd gost is fel rhywbeth a fyddai’n annog mwy o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon, gyda 15% o ymatebwyr yn 2019-20 yn dweud y byddent yn cael eu hannog i wneud mwy o chwaraeon ‘pe bai’n costio llai’.
Rydym yn gwybod bod tlodi ac amddifadedd yn effeithio ar ymgysylltu â chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Canfu Arolwg Cenedlaethol Cymru ar gyfer 2021-22 bod 24% o aelwydydd sy’n byw mewn amddifadedd materol yn cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon deirgwaith neu fwy yr wythnos (24% mewn amddifadedd materol, 35% heb fod mewn amddifadedd materol). Ailgadarnhawyd hyn yn arolwg blaenorol Traciwr Gweithgarwch Cymru (Awst 2021), a ganfu bod y rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is ddwywaith yn fwy tebygol na’r rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol uwch o fod wedi gwneud dim ymarfer corff yn ystod yr wythnos ddiwethaf. Canfu'r arolwg hefyd bod y rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is yn llai tebygol o wneud ymarfer corff i helpu i reoli eu hiechyd meddwl.
Mae’r Traciwr Gweithgarwch Cymru diweddaraf (Awst 2022) eisoes wedi dangos bod y rhai sydd wedi gweld gostyngiad yn eu gweithgarwch oherwydd yr argyfwng costau byw yn amlycach ymhlith y cymunedau sydd eisoes yn cael eu tangynrychioli. Mae ymatebwyr benywaidd yn fwy tebygol na gwrywod o gytuno bod yr argyfwng costau byw wedi cael effaith negyddol ar eu gallu i fod yn actif (44% o gymharu â 37%). Mae ymatebwyr ar radd gymdeithasol C2DE yn llai tebygol na’r rhai yn ABC1 o ddweud bod yr argyfwng costau byw wedi cael effaith gadarnhaol ar eu gallu i fod yn actif.
I’r gwrthwyneb, mae pobl 16 i 34 oed, a fyddai fel arfer â lefel uwch o gyfranogiad, yn fwy tebygol o gytuno bod costau byw wedi cael effaith negyddol arnynt na phobl 35 i 54 neu 55+ oed. Mae hyn yn dangos ei bod yn her wirioneddol i bobl iau heb sicrwydd ariannol.